Mae partneriaeth rhwng Plant yng Nghymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi helpu i ymgorffori diwylliant cryfach o gyfranogiad ieuenctid ar draws y sefydliad, gan greu cyfleoedd newydd i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar wirfoddoli a gwneud penderfyniadau ym myd pêl-droed Cymru. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2024 a chafodd ei ariannu gan CGGC drwy Gronfa Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru. Er i’r gwaith gael ei gynllunio’n wreiddiol fel rhaglen 18 mis, fe wnaeth ennill momentwm yn gyflym wrth i’r ddau sefydliad adeiladu ar uchelgais a rennir i hyrwyddo lleisiau plant a phobl ifanc.

Gan weithio’n agos gyda staff CBDC, helpodd Plant yng Nghymru i ddatblygu systemau a phrosesau pwrpasol a gynlluniwyd i wneud cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc yn fwy cynaliadwy ac i sicrhau bod llais ieuenctid yn cael blaenoriaeth mewn gwaith sy’n effeithio ar bobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys ail-alinio'r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol, creu prosiect Llysgenhadon Ieuenctid, hyfforddiant staff pwrpasol, a rhaglen recriwtio ac ymsefydlu a gynhyrchwyd ar y cyd. Wrth i gydnabyddiaeth o werth llais ieuenctid gynyddu, dechreuodd adrannau ar draws Cymdeithas Bêl-droed Cymru greu mwy o gyfleoedd i’r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol gymryd rhan, gan gynnwys cymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr Cymru, lansio’r Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru, a chyfleoedd i bobl ifanc rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth ar lefel y bwrdd.

Erbyn i'r prosiect ddod i ben ym mis Mawrth 2025, gallai'r ddau sefydliad nodi cynnydd sylweddol. Roedd dull seiliedig ar hawliau plant wedi'i ymgorffori i gefnogi cyfranogiad gweithredol pobl ifanc, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datblygu tîm staff mwy hyderus a medrus sydd bellach yn gofyn am farn pobl ifanc yn rheolaidd fel rhan o waith yr adran. Mae'r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol hefyd yn parhau i feithrin cysylltiadau â grwpiau a chynghorau ieuenctid eraill, gan helpu aelodau i ehangu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hyder.

Mae'r bartneriaeth yn gadael gwaddol parhaol, gan ddangos sut y gall sefydliad nad yw'n draddodiadol yn gysylltiedig â chyfranogiad ieuenctid dilys fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant a chreu cyfleoedd ystyrlon i blant a phobl ifanc ledled Cymru. I Plant yng Nghymru, mae'r gwaith yn rhoi enghraifft gref o'r hyn y gellir ei gyflawni pan roddir llais ieuenctid wrth wraidd newid.

Wrth drafod eu hamser yn gweithio mewn partneriaeth â Phlant yng Nghymru, dywedodd Carys Ingram, Swyddog Gweithredol Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

“Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda Plant yng Nghymru, nid yn unig gallu ein cefnogi wrth rannu gwybodaeth, ond y llwyth gwaith a chyflwyno’r lefel hollol newydd hon o arbenigedd a gwybodaeth o ran rhyngweithio â phobl ifanc.”

Ychwanegodd Kate Thomas, Rheolwr Prosiectau a Phartneriaethau, Plant yng Nghymru:

“Mae wedi bod yn bleser pur bod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cofleidio ethos a gwerth gwirioneddol cyfranogiad ystyrlon gan bobl ifanc, gan ddangos ymrwymiad gwirioneddol i ymgysylltu â'r canllawiau a'r dysgu rydyn ni wedi'u rhannu trwy ein dull sy'n seiliedig ar hawliau. Mae twf effeithiolrwydd y cyngor ieuenctid wedi bod yn wirioneddol drawiadol, ac mae wedi bod yn llawenydd gweld pobl ifanc yn tyfu, yn datblygu eu hyder, yn llunio trafodaethau, ac yn gwneud cyfraniadau ystyrlon i sefydliad CBDC. Mae eu gweld nid yn unig yn cael eu cynnwys, ond yn cael eu gwerthfawrogi'n wirioneddol mewn gwneud penderfyniadau, wedi bod yn wych.”

Mae Plant yng Nghymru yn edrych ymlaen ac yn croesawu’r cyfle i gynnal rhagor o brosiectau cydweithio partneriaeth gyda sefydliadau eraill mewn amrywiaeth o leoedd lle gall babanod, plant a phobl ifanc elwa o ymgysylltiad a chefnogaeth ystyrlon. Am ragor o wybodaeth am ein rhaglen Adeiladu Lleisiau, cliciwch yma neu cysylltwch â Kate.Thomas@childreninwales.org.uk​​​​​​​