Yn ôl academyddion, mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

Roeddent yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yn y Senedd a ganfu fod llawer o blant a phobl ifanc wedi profi straen, gorbryder ac unigrwydd.

Mae data ar broblemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gyfyngedig. Mae ystadegau a nodir yn gyffredinol ar gyfer y DU yn cynnwys:

  • amcangyfrif bob gan dri o blant a phobl ifanc ym mhob ystafell ddosbarth (neu un o bob wyth yn gyffredinol) gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio; a
  • bod hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn ymddangos erbyn 14 oed, gyda 75 y cant yn ymddangos erbyn 24 oed.

Mae’r ystadegau’n dangos cynnydd cyson yn nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl, hyd yn oed cyn y pandemig COVID-19. Pam, felly, y mae llywodraethau’r DU yn dal i fethu rhai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd pan ddaw’n fater o salwch meddwl? Rhan o'r ateb yw ein bod ni fel cymdeithas yn parhau i ymateb i’r broblem yn bennaf yn hytrach na’i hatal.

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais clir i ganolbwyntio ar atal

Nid oes diffyg uchelgais ar ran Llywodraeth Cymru lle mae atal yn y cwestiwn.

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru, y bydd angen i ysgolion cynradd ei weithredu o fis Medi 2022, yn cynnwys iechyd a llesiant fel un o’r meysydd dysgu allweddol. Mae llesiant hefyd wedi cael ei blethu trwy feysydd eraill y cwricwlwm.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol newydd yn 2021 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ymgorffori dull ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol yn eu harferion bob dydd. Gall ysgolion a cholegau benderfynu ar y cymorth iechyd meddwl y maent am ei ariannu a’i ddarparu eu hunain.

Mewn dull ysgol gyfan, mae llesiant ac iechyd meddwl yn fater i bawb

Mae'r dull ysgol gyfan wedi cael ei hyrwyddo am nifer o flynyddoedd. Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd ei adroddiad dylanwadol Cadernid Meddwl yn 2018 - a'i adroddiad dilynol Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae’r ddau adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd atal ar gyfer materion iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc wedi bod yn gyfrifol am ysgogi newid

Yn 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP), rhaglen amlasiantaeth a gynlluniwyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant. Cafodd y rhaglen ei hymestyn tan fis Mawrth 2022 gyda thair blaenoriaeth y Rhaglen:

  • cymorth cynnar a chefnogaeth uwch - Fframwaith NYTH NEST;
  • gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol; a
  • gwasanaethau niwroddatblygiadol.

Daeth y rhaglen i ben ar 31 Mawrth 2022, ond mae gwaith gwaddol yn parhau tan fis Medi.