Rhannodd dros 439 o ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr gofal plant, rheolwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant ac athrawon o bob rhan o Gymru eu profiadau o weithio yn ystod y pandemig; pa newidiadau sydd wedi’u gwneud a’u canfyddiadau o effaith y newidiadau hyn.

Mae’r canfyddiadau ar ffurf pum Ffeithlun ac yn rhoi cipolwg cyntaf, gan gynnwys:

  • Canfyddiadau Allweddol
  • Hyfywedd y Ddarpariaeth
  • Rheoliadau Covid-19
  • Hawliau Plant
  • Yr effaith ar Staff

Bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gynnal yn awr, a fydd yn rhoi darlun mwy cyfannol, ac os hoffech gael y canlyniadau ehangach pan fyddant yn barod, anfonwch e-bost at: louise.oneill@childreninwales.org.uk