Cynorthwy-ydd AD a Llywodraethiant

Lleoliad

Caerdydd – gweithio ystwyth o’ch cartref neu yn y swyddfa gyda chyfarfodydd misol o leiaf wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.

 

Oriau Gwaith

28 awr yr wythnos

 

Contract

Parhaol yn amodol ar gyllid

 

Graddfa Gyflog

£26,000 y flwyddyn pro rata

 

Dyddiad cau

22 Ebrill 2024 (9y.b.)

 

Rydym am benodi unigolyn trefnus i ddarparu cefnogaeth weinyddol effeithiol ar gyfer swyddogaethau AD a Llywodraethiant y sefydliad mewn modd cyfrinachol, sensitif. Bydd hynny’n golygu gweithio fel rhan o dîm bychan yn cefnogi’r grŵp ehangach o staff ac aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd sgiliau trefniadol deiliad y swydd yn cyfrannu at weithrediadau hwylus i’r sefydliad.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrifoldeb am ddiweddaru cofnodion staff a drafftio gohebiaeth briodol, yn ogystal â delio ag ymholiadau staff ar ystod o faterion.
  • Cyfrannu at brosesau recriwtio a chynorthwyo wrth adolygu a datblygu deunyddiau ymuno.
  • Cynorthwyo wrth drefnu amserlen o hyfforddiant i’r staff a mentrau datblygu.
  • Cynorthwyo wrth gasglu data a’i fewnbynnu i systemau perthnasol.
  • Cynorthwyo wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd sy’n ymwneud â llywodraethiant Plant yng Nghymru, gan gynnwys cyfarfodydd gyda’r Ymddiriedolwyr a’r CCB.

​​​​​

Pecyn cais isod