Swyddog Digwyddiadau

Location

Gweithio ystwyth o gartref neu yn ein swyddfa yng Nghaerdydd

 

Hours

28 awr yr wythnos

 

Contract

Parhaol

 

Salary

£33,864 y flwyddyn pro rata

 

Closing Date

Dydd Llun 15 Ebrill 2024, 9y.b.

 

Rydym am benodi unigolyn deinamig ac egnïol i ddatblygu, rheoli a gweithredu calendr digwyddiadau ar gyfer Plant yng Nghymru, sy’n cyflwyno digwyddiadau difyr i’n haelodau, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o ddarparu digwyddiadau ar gyfer ein gwirfoddolwyr ifanc.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

  • Datblygu a chynnal calendr o ddigwyddiadau i Plant yng Nghymru sy’n ennyn diddordeb yr aelodau presennol ac yn helpu i ddenu rhai newydd (ar y cyd â’r Rheolwr Cyfathrebu ac Aelodaeth a chyda mewnbwn gan yr Uwch-dîm Arwain). Bydd gofyn i’r rhain gynnwys cyflwyno digwyddiadau sydd eisoes yn bodoli fel cyfarfodydd ein Cyngor Polisi (pan gânt eu cynnal wyneb yn wyneb), yn ogystal â sefydlu cyfres o ddigwyddiadau newydd, sydd â ffocws ar yr aelodau (seminarau, cynadleddau, digwyddiadau rhwydweithio).
  • Goruchwylio cyflwyno Gŵyl Flynyddol Cymru Ifanc, sy’n gyfle allweddol i bobl ifanc sicrhau bod Gweinidogion yn clywed eu llais, ac yn elfen sylfaenol o’r calendr digwyddiadau y cyfeiriwyd ato eisoes.
  • Arwain y gwaith o gyflwyno digwyddiadau i’r sefydliad fel prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan randdeiliaid mewnol ac allanol.

 

Pecyn cais isod