Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i bawb rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yng Nghymru, gyda chymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a chymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Byddwch yn cael y cyfle i adolygu a siapio'r warant i wneud yn siŵr ei bod yn cefnogi pob person ifanc i fanteisio ar gyfleoedd i symud ymlaen ar eu llwybr dewisol. Manteision Gwirfoddoli:
• Cwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl • Cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru • Datblygu ystod o sgiliau a hyfforddi • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau blynyddol a chenedlaethol • Gwella eich CV a/neu gais UCAS • Cefnogaeth ariannol i fynychu cyfarfodydd a phreswyliadau. DIDDORDEB? I fod yn rhan o hyn a chychwyn eich taith wirfoddoli gyda Cymru Ifanc, llanwch ein ffurflen gofrestru trwy glicio yma: https://forms.office.com/e/L0a1etADvf Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk / rachel.clement@childreninwales.org.uk