Mae Plant yng Nghymru wedi cyhoeddi adroddiad Cyflwr y Sector Rhianta a Chymorth i Deuluoedd 2025, sy'n dangos sector sy'n dal i fod dan bwysau sylweddol wrth iddo weithio i ddarparu cefnogaeth atal ac ymyrraeth gynnar hanfodol.

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae'r adroddiad yn tynnu ar ddirnadaethau aelodau o’r Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Cenedlaethol Rhianta a Chymorth i Deuluoedd. Mae'n tynnu sylw at weithlu sy'n wynebu heriau cynyddol a llwythi achosion cynyddol gymhleth, ond sy'n parhau i ymateb gyda chreadigrwydd, sgiliau ac ymrwymiad dwfn.

Er bod gwasanaethau'n cael eu hymestyn y tu hwnt i'w cylch gwaith gwreiddiol, gan ddod yn fwyfwy adweithiol, gan fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol ac economaidd ehangach ac ymateb iddynt, mae angerdd ac ymroddiad y staff yn parhau i fod yn glir. Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch lles staff yn bodoli. Mae gweithwyr proffesiynol yn nodi eu bod yn teimlo wedi’u gorlethu ac yn brin o adnoddau, yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw, yn teimlo eu bod wedi'u gwasgaru'n rhy denau ac yn gwybod nad ydyn nhw'n rhoi'r gwasanaeth y mae ei angen ar deuluoedd, a’r gwasanaeth y maent yn ei haeddu.

Er gwaethaf hyn, mae'r sector yn parhau i addasu. Mae dulliau arloesol o gefnogi teuluoedd yn dod i'r amlwg ledled Cymru, dan arweiniad gweithlu sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth. Mae'r ymdrechion hyn yn dweud llawer am y gwydnwch a'r gallu o fewn y sector.

Mae'r dystiolaeth yn parhau i ddangos y gall ymyrraeth gynnar, yn enwedig yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, gael effaith drawsnewidiol ar ganlyniadau hirdymor i blant a theuluoedd. Mae ymgorffori'r ddealltwriaeth hon mewn polisi ac ymarfer yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae adroddiad eleni yn tanlinellu nad oes llawer wedi newid yng Nghymru ers adroddiad 2024. Mae galwad glir i Lywodraeth Cymru a llunwyr polisi weithredu: mae angen brys am well cyllid a chydnabyddiaeth i gynnal yr ymdrechion hyn.

Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r hyn rydym yn ei glywed gan ein haelodau a chan y rhai sy'n darparu cymorth ar lawr gwlad. Bydd yn llywio ein gwaith polisi, ymgynghori a maniffesto ehangach yn uniongyrchol yn y cyfnod cyn etholiadau nesaf y Senedd.

Darllenwch yr adroddiad yma.