
Fel rhan o’r Sgwrs Fawr gyda rhieni ledled Cymru, rydyn ni’n lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth gyffrous: ‘Mannau a Llefydd’
Mae rhieni wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw eisiau mwy o fannau fforddiadwy a hygyrch i blant a theuluoedd eu mwynhau. Nawr rydyn ni eisiau gweld eich ffefrynnau CHI!
Rhannwch lun o le neu fan lle rydych chi wrth eich bodd yn treulio amser gyda’ch teulu
Gadewch i ni ddathlu’r mannau rhyfeddol lle rydych chi wrth eich bodd
Cewch holl fanylion y gystadleuaeth isod ac ar ein poster.
Cyfle i ennill Taleb Amazon gwerth £50!
Rydyn ni’n dathlu hoff ‘Fannau a Llefydd’ teuluoedd – ac rydyn ni eisiau gweld eich rhai chi!
Tynnwch lun o’ch hoff le neu fan, o dan do neu yn yr awyr agored. Gallai’r llun gynnwys chi, eich plentyn/plant, gwrthrych arbennig, golygfa hardd, neu hyd yn oed rywbeth haniaethol. Byddwch yn greadigol a dangos arwyddocâd y llefydd yma i chi.
E-bostiwch eich cynnig i: parentsconnect@childreninwales.org.uk
Cofiwch roi teitl byr neu bennawd i’ch llun.
Trwy anfon llun, rydych chi’n cytuno y gallwn ddefnyddio eich ffotograff yn rhan o brosiect Cyswllt Rhieni Cymru. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw riant, gwarcheidwad neu ofalwr plentyn o dan 18 sy’n byw yng Nghymru.