Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), ar y cyd gyda Asiantaeth SCL, yn cynnal prosiect ymchwil mewn i brofiadau pobl ifanc o chwilio am gymorth gyda’u hiechyd meddwl yng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf. Hoffai ICC glywed gan bobl ifanc sydd rhwng 18 a 25 oed a’n barod i rannu eu profiadau o chwilio am gymorth gyda’u hiechyd meddwl yng Nghymru. Maent yn awyddus iawn i glywed gan drawstoriad eang o bobl ifanc, gyda thrawstoriad eang o brofiadau o chwilio am gymorth e.e. trwy’r ysgol/coleg, trwy feddyg teulu, trwy elusen neu trwy gwnselydd preifat. Boed y broses o chwilio am gefnogaeth wedi arwain at dderbyn cefnogaeth neu beidio, mae ICC eisiau clywed sut beth ydy chwilio am gymorth gyda’ch iechyd meddwl fel person ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd SCL yn cynnal cyfweliadau gyda pobl ifanc sy’n mynegi diddordeb mewn cymryd rhan (a’n pasio’r meini prawf diogelwch), a bydd pob person ifanc sy’n cyfrannu yn derbyn taleb gwerth £20 fel diolch. Bydd y cyfweliadau yn digwydd hyd at ganol mis Rhagfyr 2023.

Gall pobl ifanc ddarganfod mwy am yr ymchwil a cofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan ar y wefan yma: Cartref | IechydMeddwlCymru V3 (adborth-iechyd-meddwl-cymru.co.uk) Tybed os gallwch chi rannu gwybodaeth am y prosiect yma gyda unrhyw bobl ifanc yn eich rhwydweithiau, os gwelwch yn dda? Mae deunyddiau hyrwyddo wedi eu hatodi i’r ebost yma. Os hoffech glywed mwy am yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu gyda Lois Griffiths o ICC ar Lois.Griffiths@wales.nhs.uk

 

PHW_Cym_FBV3.png