Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei gwybodaeth ar ba help sydd ar gael i helpu gyda chostau byw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru "Rydym yn deall y gall costau byw cynyddol fod yn arbennig o bryderus os ydych yn cael trafferth talu eich biliau a/neu eich rhent, ond mae cymorth a chyngor ar gael i'ch cynorthwyo."

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ragor o daliadau cymorth ar gyfer ynni a chostau byw i rai cartrefi.

Mae’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i diweddaru yn cwmpasu pob oedran:

  • Cyflwyniad
  • Costau byw
  • Tai
  • Cymorth ariannol
  • Hawlio budd-daliadau
  • Costau ysgol a gofal plant
  • Costau addysg bellach ac addysg uwch