Yn ystod haf 2026 cynhaliodd ‘Cyswllt Rhieni Cymru’ Sgwrs Fawr gyda rhieni/gofalwyr ledled Cymru. Penderfynwyd ar y pynciau fyddai’n cael eu trafod trwy bleidlais ymlaen llaw gyda rhieni. 

Dan arweiniad Plant yng Nghymru, menter genedlaethol yw’r ‘Sgwrs Fawr 2026’ a luniwyd i gasglu cipolygon go iawn ar brofiadau rhieni. Mae’n canolbwyntio ar faterion allweddol sy’n effeithio ar hawliau plant, llesiant rhieni a bywyd y teulu.   

Bu 168 o rieni/ofalwyr o bob rhan o Gymru yn rhannu eu barn trwy arolwg ar-lein. 

Mae canlyniadau ein ‘Sgwrs Fawr 2026’ arolwg rhieni wedi cael eu lansio. Cliciwch yma i weld y infograffig gweledol o'r canfyddiadau allweddol a ddarparwyd gan rieni/gofalwyr.

Dywedodd rhieni ledled Cymru wrthym beth fyddent yn ei wneud pe baent yn Brif Weinidog am ddiwrnod. Roedd eu neges yn glir:

• Gofal plant fforddiadwy

• Cymorth gyda chostau byw

• Gwell cymorth ar gyfer anghenion ychwanegol

• Mwy o amser gyda’u teuluoedd

Cyflwynwyd y blaenoriaethau hyn yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, ac rydym yn falch o rannu rhan o’r ymateb a gawsom gan Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:

“Diolch i Plant yng Nghymru am greu cyfle pwysig i rieni a gofalwyr rannu'r hyn sydd bwysicaf iddynt. Trosglwyddwch fy niolch i bawb a gyfrannodd. Mae eu profiadau a'u blaenoriaethau wedi cael eu clywed a byddant yn parhau i lywio ein gwaith i wneud Cymru yn le gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Dymunaf bob llwyddiant i chi gyda Wythnos Genedlaethol Rhianta a chyhoeddi canlyniadau'r arolwg Sgwrs Fawr.”.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ‘Sgwrs Fawr’ ac a helpodd i sicrhau bod lleisiau rhieni yn cael eu clywed.