Gallwch ddarllen Adroddiad Effaith llawn Plant yng Nghymru 2024 i 2025 yma.

Adroddiad Effaith 2024 to 2025

Mae Plant yng Nghymru yn falch o rannu ein Hadroddiad Effaith blynyddol, sy'n tynnu sylw at flwyddyn o gynnydd ystyrlon wrth hyrwyddo hawliau plant, cryfhau dylanwad pobl ifanc a chefnogi ymarfer ledled Cymru.  

Drwy gydol 2025, fe wnaethom barhau i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru, gan weithio gyda babanod, plant a phobl ifanc – a'r rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau sy'n eu cefnogi – i sicrhau bod hawliau'n cael eu deall, eu parchu a'u hymgorffori wrth wneud penderfyniadau go iawn. Mae ein hadroddiad yn dangos sut rydym, drwy eiriolaeth, ymchwil, dysgu proffesiynol a chydweithio, yn helpu i greu Cymru lle gall pob plentyn ffynnu a lle mae eu lleisiau wrth wraidd polisi ac ymarfer. 

Yn ei gyflwyniad i'r adroddiad, mae ein Prif Weithredwr Hugh Russell yn myfyrio ar yr ymrwymiad sy'n sbarduno ein gwaith a'r cynnydd rydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd. Mae'n ysgrifennu: “Yn Plant yng Nghymru, mae atebolrwydd yn hynod bwysig i ni. Rydym yn atebol i fabanod, plant a phobl ifanc, y rhai rydym yn ceisio hyrwyddo eu hawliau; i'n haelodau, y mae eu gwaith hanfodol yn dwyn i’r amlwg Gymru lle mae hawliau pob plentyn yn cael eu diwallu; i'n harianwyr, y mae eu cefnogaeth yn ein sbarduno tuag at ein cenhadaeth; ac i'n gilydd, fel cydweithwyr sy'n ymdrechu i gyflawni'r Gymru well honno i blant. Mae ein Hadroddiad Effaith yn cynnig cyfle gwerthfawr i ni nodi’n gyhoeddus yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’r gwahaniaeth rydym wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf mewn cydweithrediad â’r holl bartneriaid hyn.” 

Eleni fe gyrhaeddon ni fwy o fabanod, plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol nag erioed o'r blaen. Cryfhaodd mwy na 4,200 o ymarferwyr eu gwybodaeth am ddiogelu a hawliau plant drwy ein hyfforddiant. Cymerodd gyfanswm o 512 o bobl ifanc ran uniongyrchol mewn llunio penderfyniadau drwy fyrddau cynghori, ymgynghoriadau, digwyddiadau a chyfarfodydd preswyl, a thyfodd rhaglen Cymru Ifanc i 215 o aelodau gweithgar. Fe wnaethon ni hefyd gyflwyno 14 o ymatebion i ymgynghoriadau a chymryd rhan mewn 76 o gyfarfodydd rhwydweithiau a gweithgorau, gan helpu i sicrhau bod hawliau plant yn parhau i fod yn ganolog i ddatblygu polisïau yng Nghymru.