Maniffesto ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 
Etholiad y Senedd 2026

Mae Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA) wedi cyflwyno’i flaenoriaethau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026, gan alw ar bob plaid wleidyddol ac ymgeisydd i wneud ymrwymiad amlwg i gefnogi pob baban, plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

Clymblaid o gyrff trydydd sector sy’n cefnogi babanod, plant a phobl ifanc ag ADY yw TSANA. Ers dros ddegawd, mae wedi bod yn codi llais dros eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). 

Cyn y tymor Senedd nesaf, mae TSANA yn galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod: 

  • Argymhellion yr adolygiad o fframwaith deddfwriaethol ADY yn cael eu gweithredu 

  • Monitro cyson ar ddiwygio ADY yn parhau 

  • Pob buddsoddiad presennol a neilltuwyd ar gyfer cyflwyno ADY yn cael ei gynnal 

Yn ogystal â’r galwadau trosfwaol hyn, mae TSANA wedi nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu: 

  1. Datblygu dull ysgol gyfan neu leoliad cyfan o gefnogi pob plentyn sydd ag ADY. 

  2. Sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnal, fel eu bod yn gallu cael mynediad teg at ddarpariaeth a chefnogaeth ADY priodol, gan ddileu effaith y loteri côd post. 

  3. Sicrhau bod pob pontio yn cael ei ystyried yn briodol, gan gynnwys babanod, plant a phobl ifanc a chlywed eu lleisiau.  

I gael rhagor o fanylion, darllenwch adolygiad Llywodraeth Cymru o fframwaith deddfwriaethol ADY, sydd ar gael yma Adolygiad o fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) | LLYW.CYMRU 


"Mae’r maniffesto hwn yn cyflwyno blaenoriaethau pwysig ac amserol ar gyfer gwella profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc ag ADY. Mae’n cyd-fynd â’n hymrwymiad ninnau yn Natspec, sef sicrhau bod pob person ifanc ag ADY yn derbyn cefnogaeth person-ganolog o safon uchel – nid yn yr ysgol yn unig, ond ar hyd eu taith ôl-16 i oedolaeth."
- Clare Howard OBE, Prif Swyddog Gweithredol Natspec