Mae'r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar un o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru heddiw: tlodi plant. Fel y mae ymchwil diweddar Sefydliad Joseph Rowntree yn ei ddangos, mae tlodi yn parhau i gryfhau anfantais ym mywydau plant – gyda disgyblion Blwyddyn 6 mewn tlodi yn fwy na dwy flynedd y tu ôl i'w cyfoedion mewn llythrennedd a rhifedd.

Yn Plant yng Nghymru rydym yn gwybod bod yr ystadegau hyn yn adlewyrchu profiadau bywyd plant a theuluoedd ledled y wlad. Trwy ein Harolygon Tlodi Plant a Theuluoedd blynyddol, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, rydym yn casglu mewnwelediadau uniongyrchol i effaith tlodi – mewnwelediadau sy'n adrodd stori ddifrifol am galedi sy'n dyfnhau.

Yn y rhifyn hwn, clywn gan leisiau ar draws y sector - mae ein Cyfarwyddwr Polisi, Sean O’Neill, yn adrodd ar godi’r pryderon hyn yn San Steffan gyda’r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Blant yng Nghymru sydd wedi’i ailffurfio; mae Barnardo’s Cymru yn tynnu sylw at yr angen brys am newid systemig i leihau dibyniaeth ar atebion tymor byr; rydym yn archwilio natur groestoriadol tlodi trwy gyfraniadau gan Credu (gofalwyr ifanc), Cyngor Ffoaduriaid Cymru (plant sy’n chwilio am loches) a Family Pathway (plant niwroamrywiol).

Rydym hefyd yn taflu goleuni ar ymatebion arloesol, cymunedol – o ddarparu bwyd a chymorth addysg i sicrhau y gall plant barhau i gael mynediad at eu hawl i chwarae, hyd yn oed o dan bwysau tlodi. Mae cyfraniadau gan sefydliadau fel Chwarae Cymru, Buttle UK, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn arddangos yr ymroddiad a’r creadigrwydd sydd ar waith ledled Cymru.

Mae'r rhifyn hwn yn atgof clir o ba mor ddwfn y mae tlodi plant wedi'i wreiddio yn ein cymdeithas – ac yn alwad i weithredu.

Diolch i'r holl gyfranwyr am gymryd yr amser i ysgrifennu eu herthyglau ac am eu hymroddiad yn y maes hwn.

Darllenwch ef yma