
Cadw’r Dyddiad: Hysbysiad ynghylch Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Plant yng Nghymru – dydd Sadwrn, 15 Tachwedd 2025
Eleni rydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) eto fel rhan o Uwchgynhadledd Cymru Ifanc. Bydd hynny’n rhoi cyfle i’n haelodau ymuno yn rhai o ddathliadau’r Uwchgynhadledd a chlywed ein gwirfoddolwyr ifanc yn disgrifio’r gwaith a’r gweithgareddau y buon nhw’n rhan ohonynt yn ystod y flwyddyn.
Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni yn bersonol ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd. Bydd manylion yr amseriadau a sut mae ymuno â’r cyfarfod yn cael eu hanfon yn y man, ac os na fedrwch fod yn bresennol yn bersonol, bydd cyfle i ymuno â ni ar gyfer busnes y CCB ar-lein.
Galwad am Enwebiadau
Rydym hefyd yn galw am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â ni a chymryd lleoedd o'r CCB. Eleni mae tri lle ar gael i'w hethol.
Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar am y gefnogaeth a’r arweiniad mae’r Ymddiriedolwyr yn eu rhoi i’n sefydliad, ac mae’n bwysig bod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn adlewyrchu aelodaeth eang Plant yng Nghymru. Gallwch enwebu eich hun, neu enwebu unigolyn arall gyda’u caniatâd. Isod cewch ddolen i nodyn arweiniol sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddod yn Ymddiriedolwr, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae'n rhaid i bob un o'n Ymddiriedolwyr fod yn aelod o Plant yng Nghymru neu ymuno fel aelod newydd.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 28 Medi 2025. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr, byddai naill ai fi neu'r Cadeirydd yn croesawu'r cyfle i gael sgwrs ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, felly cysylltwch â ni.
Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y CCB.
Hugh Russell
Prif Weithredwr