ECPN Maniffesto 2026

Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN Cymru) wedi cyhoeddi ei faniffesto cyn tymor nesaf y Senedd, gan nodi blaenoriaethau allweddol i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel a disgwylir iddynt godi yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gall cael eich geni mewn tlodi a thyfu i fyny mewn tlodi gael effeithiau dwys, gydol oes, ar blant, a pho hiraf y bydd plentyn yn aros mewn tlodi, po anoddaf yw torri'r cylch hwnnw.

Rhwydwaith o sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio i ddileu tlodi plant yng Nghymru yw ECPN Cymru. Mae’r maniffesto wedi'i seilio ar hawliau plant ac yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Mae'n nodi 10 cam gweithredu blaenoriaethol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu Cynllun Cyflawni ar gyfer Tlodi Plant, ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i blant ysgol uwchradd, gwella mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, a chryfhau hawliau plant mewn polisi a gwneud penderfyniadau.

Darllenwch faniffesto ECPN Cymru i gael gwybod mwy am y camau gweithredu y mae angen eu gweld gan Lywodraeth nesaf Cymru i leihau tlodi plant yng Nghymru.