Enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth ‘Mannau a Llefydd'
Llongyfarchiadau i Sarah Morris sydd wedi ennill taleb Amazon gwerth £50 yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Mannau a Llefydd’ Cyswllt Rhieni Cymru, yn rhan o’r ‘Sgwrs Fawr’.
Drwy gydol mis Gorffennaf 2025, defnyddiwyd dull creadigol o estyn allan at rieni i gael gwybod pa fannau a llefydd sy’n bwysig iddyn nhw. Roedd gan bob cynnig gyfle i ennill gwobr.
Mae rhieni wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw eisiau mwy o fannau fforddiadwy a hygyrch i blant a theuluoedd eu mwynhau. Daeth amrywiaeth o ffotograffau i law oedd yn cynnig cipolwg unigryw ar fannau a llefydd lle mae pobl wrth eu bodd yn treulio amser gyda’u teulu.
Er bod yr enillydd wedi’i ddewis ar hap, roedden ni wrth ein bodd â ffotograff Sarah o’i gŵr a’i hŵyr yn chwarae. Meddai Sarah, "Rydyn ni’n dwlu mynd â’n hŵyr i’r traeth ac mae digonedd o ddewis yn Sir Benfro, ond byddwn ni’n mynd i’n traeth lleol yn Wdig, lle mae parc bach hefyd i’w fwynhau."

Diolch i bawb fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau ac yn falch o gael helpu i chwyddo lleisiau rhieni.
Enillydd gwobr arolwg ar-lein ‘Y Sgwrs Fawr'
Llongyfarchiadau hefyd i Jo Farnden a enillodd daleb Amazon gwerth £50.
Jo oedd enillydd y wobr i’r rhai a lanwodd ein harolwg ar-lein a gafodd ei lansio yn rhan o’r ‘Sgwrs Fawr’ gyda rhieni a gofalwyr ledled Cymru.
Roedd yn gyfle gwerthfawr i rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr rannu eu profiadau a helpu i lywio cymorth i deuluoedd yn y dyfodol. I gael gwybod mwy, ewch i: Children in Wales | Hwb Cyswllt Rhieni Cymru