Mae'r Addewid i Fabanod, a ddatblygwyd gan Plant yng Nghymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn ymrwymiad i gydnabod ac ymateb i leisiau, hawliau ac anghenion babanod o ddechrau bywyd.

Wedi'i gynhyrchu ar y cyd â rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac wedi'i oleuo gan fabanod eu hunain, mae'r Addewid wedi'i seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac yn canolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf hollbwysig. Mae'n tynnu sylw at yr hyn sydd ei angen ar fabanod i deimlo'n ddiogel, i gael eu gwerthfawrogi a'u meithrin, gan gydnabod hefyd y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai teuluoedd nag eraill.

Mae'r Addewid yn annog pawb – o rieni a gofalwyr i ymarferwyr, gwasanaethau a gwneuthurwyr penderfyniadau – i wrando ar fabanod ac ystyried eu hanghenion mewn gofal bob dydd, cynllunio cymunedol a phenderfyniadau polisi.

Mae'r animeiddiad uchod yn dod â'r Addewid yn fyw, gan rannu llais y babi a’n hatgoffa: pan fydd babanod yn ffynnu, mae teuluoedd, cymunedau – a Chymru gyfan – yn ffynnu hefyd.