"Mae CLlLC yn falch iawn o gynnal Bwyd a Hwyl ar ran Llywodraeth Cymru, sef rhaglen sy'n cefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau'r haf, sy'n gallu fod yn gyfnod heriol i nifer o deuluoedd yng Nghymru.
Mae'r rhaglen, sy'n rhedeg am yr wythfed flwyddyn eleni, wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei lansio, ac mae bellach yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed ledled Cymru i sicrhau deiet cytbwys a iach.
Yn ystod gwyliau'r haf eleni, bydd Bwyd a Hwyl yn darparu lleoedd i 8000 o blant bob dydd, sef hyd at 96,000 o gyfleoedd posibl i blant fynychu’r sesiynau ledled Cymru.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyllido'r cynllun, ac i'r holl bartneriaid yn y gwahanol awdurdodau lleol sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod y rhaglen hon yn digwydd, ac yn llwyddo."