Gwrando ar ein Plant Ifancaf - Safbwyntiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig

Y gynhadledd hon oedd cynhadledd flynyddol gyntaf rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY).  Clywodd y cynrychiolwyr gan nifer o siaradwyr ysbrydoledig a gwybodus, o bob rhan o'r DU, am rannu arfer gorau a gwaith cyfredol o amgylch gwrando ar leisiau plant ifanc.

Amlygodd y gynhadledd bwysigrwydd ymgysylltu â'n plant ieuengaf a sut y gall hyd yn oed babanod gael llais. 

 

"Ma'i bob amser yn wych i fod yng nghanol cydweithwyr o'r un anian. Mae angen i ni sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, y mawr a'r bach, yr uchel a'r sibrwd yn cael eu hystyried yn werthfawr. Diolch yn fawr iawn am y sgyrsiau diddorol a'r cyflwyniadau."

 

"Prynhawn gwych gyda gwybodaeth a mewnwelediad mor amrywiol i leisiau pobl oedd heb eu clywed o'r blaen. Mae llais y disgybl mor bwysig."

 

"Mae fy ymennydd yn ffrwydro'n araf - prynhawn gwych, cymaint o gyflwyniad diddorol. Bydd yn gwneud rhywfaint o ddarllen o ddifri dros yr wythnosau nesaf."