Mae eiriolaeth yn golygu codi llais dros blant a phobl ifanc, gan wneud yn siŵr bod eu hawliau’n cael eu parchu a bod eu barn yn cael ei chlywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae eiriolaeth hefyd yn golygu cefnogi plant a phobl ifanc i siarad drostynt eu hunain, a hynny ar sail y fframwaith rhyngwladol a ddarperir gan CCUHP.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio i hyrwyddo darparu gwasanaethau eiriolaeth o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc ers i Adroddiad Waterhouse, Ar Goll Mewn Gofal, gael ei gyhoeddi yn 2000. Roedd yr adroddiad yn argymell sefydlu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol a sefydlu Comisiynydd Plant Cymru. Bu Plant yng Nghymru yn rhan o’r gwaith hwn, ynghyd â’r consortiwm a sefydlodd Linell Gymorth MEIC yn 2010.
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i helpu i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gael i helpu i amddiffyn plant, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, rhag camdriniaeth a niwed.
Sefydlodd Plant yng Nghymru y rhwydwaith proffesiynol hwn yn 2004 i hyrwyddo gwaith partneriaeth ymhlith ein haelod-sefydliadau, sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r rhwydwaith hwn yn gweithio tuag at ddarparu llais cyfunol ar gyfer y sector eiriolaeth, gan ddatblygu safbwyntiau polisi a strategaethau sy’n gymorth i roi deddfwriaeth a pholisïau ar waith ar lefel genedlaethol, a darparu gwasanaethau wedi’u comisiynu ar lefel ranbarthol.
Mae’r rhwydwaith proffesiynol yn gweithio tuag at y nodau hyn trwy:
Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch trefniadau comisiynu, effeithiolrwydd y broses dendro a rhoi deddfwriaeth allweddol a chanllawiau cysylltiedig ar waith
Llywio cyflwyniad y Dull Cenedlaethol o ymdrin ag Eiriolaeth Statudol (NASA)
Darparu llais ymgyrchu/lobïo cyfunol i’r sector eiriolaeth, ac i blant a phobl ifanc sy’n cyrchu cymorth eiriolaeth
Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys gwasanaethau eiriolaeth broffesiynol annibynnol (IPA) a gomisiynir i ddarparu eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru, ochr yn ochr â sefydliadau sydd â rôl gysylltiedig mewn hyrwyddo hawliau plant sydd â phrofiad o ofal a grwpiau eraill agored i niwed a allai gael budd o ddarpariaeth eiriolaeth. Mae’r cynrychiolwyr yn cynnwys:
Bydd sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Rhwydwaith lle gwelir bod cysylltiad clir â’r agenda eiriolaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith eiriolaeth, cysylltwch â: Sean O’Neill (Cyfarwyddwr Polisi), e-bost sean.oneill@childreninwales.org.uk