Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan

Cysylltwch

Sean O'Neill, Dirprwy Prif Weithredwr/Cyfarwyddwr Polisi 

sean.oneill@childreninwales.org.uk

Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys gwasanaethau eiriolaeth broffesiynol annibynnol (IPA) a gomisiynir i ddarparu eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ochr yn ochr â sefydliadau sydd â rôl gysylltiedig mewn hyrwyddo hawliau plant sydd â phrofiad o ofal a grwpiau eraill agored i niwed a allai gael budd o ddarpariaeth eiriolaeth.

Mae’r cynrychiolwyr yn cynnwys:

  • Gwasanaethau eiriolaeth broffesiynol – NYAS Cymru a TGP Cymru
  • Lleisiau o Ofal Cymru
  • SNAP Cymru
  • Llinell gymorth MEIC – ProMo Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Materion Eiriolaeth Cymru
  • Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru (Sylwedydd)

Bydd sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Rhwydwaith lle gwelir bod cysylltiad clir â’r agenda eiriolaeth.

Sefydlodd Plant yng Nghymru y rhwydwaith proffesiynol hwn yn 2004 i hyrwyddo gwaith partneriaeth ymhlith ein haelod-sefydliadau, sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r rhwydwaith hwn yn gweithio tuag at ddarparu llais cyfunol ar gyfer y sector eiriolaeth, gan ddatblygu safbwyntiau polisi a strategaethau sydd o gymorth i roi deddfwriaeth a pholisïau ar waith ar lefel genedlaethol, a chyflwyno gwasanaethau wedi’u comisiynu ar lefel ranbarthol.

 

Mae’r rhwydwaith proffesiynol yn gweithio tuag at y nodau hyn trwy:

  • Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch trefniadau comisiynu, effeithiolrwydd y broses dendro a rhoi deddfwriaeth allweddol a chanllawiau cysylltiedig ar waith
  • Llywio cyflwyniad y Dull Cenedlaethol o Ymdrin ag Eiriolaeth Statudol (NASA)
  • Darparu llais ymgyrchu/lobïo cyfunol i’r sector eiriolaeth, ac i blant a phobl ifanc sy’n cyrchu cymorth eiriolaeth
  • Rhannu arfer da o fewn fframwaith y Safonau Eiriolaeth Cenedlaethol
  • Darparu llais unedig ar faterion allweddol mewn perthynas â systemau statudol
  • Codi proffil eiriolaeth ar draws pob gwasanaeth, gan roi sylw arbennig i bob grŵp agored i niwed
  • Ceisio cyllid teg ar draws Cymru
  • Trafod a chydweithio ar ymatebion i ymgyngoriadau perthnasol Llywodraeth Cymru
  • Ymgysylltu â llinell gymorth MEIC a chefnogi ei darpariaeth
  • Ymgysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag eiriolaeth