Cyfnod 1 (Tachwedd 2021- Ionawr 2022)
Yng Nghyfnod 1 o’r prosiect, amlygodd ymarferiad rhychwantu, arolwg ac adroddiad yr angen am gyfranogiad ystyrlon gan rieni.
Amlygodd canfyddiadau Cyfnod 1 fod rhieni’n teimlo bod rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu barn, eu syniadau a’u safbwyntiau yn eithriadol o bwysig. Y canfyddiadau hyn o Gyfnod 1 oedd yn darparu’r dystiolaeth ar gyfer Cyfnod 2 o’r prosiect.
Cyflawniadau Prosiect (Mawrth 2023 hyd heddiw)
Mae Cyswllt Rhieni Cymru wedi sefydlu rhwydwaith fel a ganlyn:
- Fforwm gweithwyr proffesiynol gyda 110 o aelodau
- Grŵp llywio o rieni gyda 6 chynrychiolydd sy’n rhieni
- 22 o gynrychiolwyr lleol, un ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru.
Mae’r grŵp llywio i rieni a’r fforwm gweithwyr proffesiynol wedi bod yn cyfarfod bob chwarter ac yn rhoi adborth i gyfeirio’r prosiect.
Hefyd mae adnoddau i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi cael eu cydgynhyrchu mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili. Cewch hyd i’r rhain yma:
Posteri Hanesion Fideo a Llafar
Crewyd platfform ar-lein o’r enw Hwb Ar-lein ‘Cyswllt Rhieni Cymru’ i ddarparu gwybodaeth a deunyddiau ar gyfer rhieni a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni.
Bydd yr hwb ar-lein yma hefyd yn ffordd i rieni rannu eu barn ar bolisi cenedlaethol a materion cysylltiedig.
Lansiwyd hwb ar-lein Cyswllt Rhieni Cymru ym mis Chwefror 2024, a gallwch ei gyrchu yma:
Hwb Cyswllt Rhieni Cymru
Hawliau Rhieni a Phlant
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn canolbwyntio ar y teulu, gyda’r plentyn yn ganolog. Mae’n cynnwys y geiriau ‘rhieni’ a ‘teuluoedd’ yn fwy na ‘plant’, ac yn cydnabod bod hawliau plant yn cael eu hamddiffyn o fewn y teulu yn gyntaf.
Mae prosiect CRhC yn hybu Erthyglau 3, 5 a 18 o CCUHP. Mae’r erthyglau hynny’n cydnabod rhieni a theuluoedd a’u rôl bwysig yn amddiffyn plant ac yn gofalu amdanynt. Cewch ragor o wybodaeth yma:
Plant yng Nghymru | Rhieni a hawliau plant
Mae prosiect CRhC yn cefnogi rhieni/gofalwyr i ddeall hawliau plant ac i gefnogi eu plant i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu gwireddu.
Mae hefyd yn cyfrannu at Linyn 5 o gynllun Llywodraeth Cymru 'Codi Ymwybyddiaeth’, a ddatblygwyd yn rhan o’r ‘Cynllun Hawliau Plant’.