Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd
Mae ein Harolwg Tlodi Plant a Theuluoedd yn cael ei ateb gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sydd ar y cyd yn gweithio gydag isafswm o 110,000 o deuluoedd a’u plant ledled Cymru.
Bob blwyddyn rydyn ni’n cynhyrchu adroddiad ar sail y canfyddiadau er mwyn deall sut maen nhw’n cael eu defnyddio. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni, ac i safon yr adroddiad. Ein nod yw gwneud yr adroddiad mor ddefnyddiol â phosibl, a bydd eich adborth yn helpu i lywio hynny. Gofynnwn i chi roi eich adborth a’ch meddyliau. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dywedir bod plant yn byw mewn tlodi os ydyn nhw’n byw mewn teuluoedd sydd ag incwm sy’n is na 60% o’r incwm canolrif. Gall tlodi gael effaith andwyol ar gyfleoedd plentyn mewn bywyd, trwy gael effaith negyddol ar eu haddysg, eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol. Mae’n bosib bydd effaith negyddol ar eu rhagolygon tai a chyflogaeth i’r dyfodol hefyd.
Mae Plant yng Nghymru yn parhau i weithio i atal a lleihau lefelau tlodi plant, a lliniaru’r effaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Mae gwaith Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:
- Cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sef y gynghrair genedlaethol ar gyfer taclo tlodi plant yng Nghymru
- Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill yng Nghymru, gan gynnwys trwy ein hymwneud â gweithgorau strategol
- Rheoli prosiectau sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn datblygu capasiti sefydliadau i gymryd camau i gefnogi plant o deuluoedd incwm isel
- Gweithio gyda’n haelod sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau a chyhoeddiadau, gan gynnwys ein Harolwg Blynyddol o Dlodi Plant yng Nghymru
- Cyflwyno digwyddiadau tlodi plant cenedlaethol a rhanbarthol
- Cyflwyno hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar effaith tlodi plant yng Nghymru
- Ymgyrch i ddileu tlodi plant ar lefel y Deyrnas Unedig
Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol 2024 - Nawr Ar Gau
Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Yr ydym yn awr yn ein 8fed flwyddyn.
Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i nodi a deall mwy am y materion presennol a’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Bydd eich profiadau a'ch safbwyntiau yn ein helpu i nodi a rhannu'r wybodaeth hon yn eang.
Mae eich lleisiau wir yn gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, cafodd canfyddiadau arolwg y llynedd eu lledaenu’n eang a’u defnyddio i ddylanwadu, llywio a newid arferion a pholisi ledled Cymru. Fe’u defnyddiwyd hefyd ar gyfer adroddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i lywio’r Strategaeth Tlodi Plant newydd, a lansiwyd ym mis Ionawr 2024.
Beth bynnag fo'ch rôl neu sector, mae eich profiadau a'ch safbwyntiau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac yn bwysig i ni. P’un a ydych yn ymarferwr, yn addysgwr, yn wneuthurwr polisi neu’n rheolwr, os yw eich rôl yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd, yna rydym am glywed gennych.
Byddwn yn cyhoeddi ac yn rhannu'r canfyddiadau ym mis Hydref
Ein nod yw y bydd y canfyddiadau unwaith eto yn helpu i lunio a llywio polisi ac arfer yng Nghymru.
Diolch am eich cefnogaeth.