Melanie Simmonds

Melanie Simmonds yw Pennaeth Achub y Plant Cymru, rôl y bu’n ei llenwi ers gwanwyn 2020. Yn y swydd hon, mae Melanie yn arwain y tîm yng Nghymru i gefnogi plant a’u teuluoedd, ac ymarferwyr i gydweithio er mwyn rhoi sylw i’r anghydraddoldeb mae tlodi’n ei greu. Mae Melanie yn dadlau’n angerddol dros hawliau plant a chyfranogiad. Cychwynnodd ei thaith gydag Achub y Plant yn 2007, ac i ddechrau bu’n arwain prosiect 'Turn On The Rights' yng Nghaerdydd. Yn ddiweddarach ymunodd â thimoedd y rhaglenni oedd yn cefnogi ymgysylltiad rhieni mewn cymunedau. Cyn symud i weithio yn Achub y Plant, roedd Melanie’n weithiwr ieuenctid a chymuned i Gyngor Dinas Casnewydd, lle bu’n arwain amrywiol brosiectau oedd yn ceisio cefnogi pobl ifanc. Yn ei hamser hamdden, mae Melanie yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau, gwneud ymarfer corff, a darllen.