Mae'r dirwedd ar gyfer hawliau plant yng Nghymru wedi trawsnewid dros y 30 mlynedd diwethaf. Ynghyd â'n haelodau, ein cydweithwyr a'n gwirfoddolwyr ifanc, rydym wedi gweithio i gyflawni newid sylweddol ac i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Er bod gwaith i'w wneud o hyd, mae'n bwysig cydnabod y llwyddiannau hyn ar y cyd, cydnabod yr hyn sy'n cael ei ddatblygu nawr a chynllunio'r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.
Beth sy'n digwydd y flwyddyn hon?
Digwyddiad Dathlu Pen-blwydd 30 oed
Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru
Bydd Plant yng Nghymru yn dod â'n dathliadau pen-blwydd yn 30 oed i ben gyda digwyddiad yn y Neuadd yn y Senedd ar ddydd Iau, 7 Mawrth 2024, 12pm i 1.30pm. Mae'n cael ei noddi'n garedig gan Jane Dodds, AS.
Gwybodaeth am Ddigwyddiad
Rhifynnau arbennig o'r cylchgrawn Plant yng Nghymru
Mae argraffiadau arbennig o'n cylchgronau aelodau o'r Hydref a'r Gaeaf yn cael eu cynhyrchu, gan gofnodi'r holl waith cadarnhaol sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf. Darllennwch y rhifynnau arbennig hyn isod.
Cylchgrawn yr Hydref
Cylchgrawn y Gaeaf
Llyfr pen-blwydd yn 30
Mae ein gwirfoddolwyr ifanc wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i gynhyrchu llyfr coffa i dynnu sylw at y gwaith allweddol sydd wedi digwydd dros y 30 mlynedd diwethaf, pwysigrwydd hawliau plant heddiw a dyfodol hawliau plant.
Darganfyddwch fwy am hawliau plant yma.
Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy am y llyfr.
Gŵyl Cymru Ifanc
Ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023, bu Plant yng Nghymru yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant trwy gynnal Gŵyl flynyddol Cymru Ifanc ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Eleni, cafwyd nawdd hael ar gyfer rhai o’r costau cysylltiedig â’r digwyddiad gan Cactus Design Ltd a Techsol Group Ltd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ddod i gysylltiad â llunwyr penderfyniadau hollbwysig, gan gynnwys y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Rheolwyr Polisi Llywodraeth Cymru.
Darllennwch y stori llawn yma.
Cystadleuaeth Baneri Bach
Trefnom gyfle creadigol i ysgolion, grwpiau cymunedol, lleoliadau gofal plant a chwarae godi ymwybyddiaeth o hawliau plant a chael plant a phobl ifanc i feddwl pa hawliau sydd bwysicaf iddynt. Gofynnom i blant a phobl ifanc greu eu dyluniad eu hunain yn seiliedig ar hawl y plant o'u dewis ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r enillwyr:
Lle cyntaf: disgybl o Ysgol y Ferch o'r Sger, Pen-y-bont ar Ogwr
Ail safle: disgybl o Ysgol Trellech, Sir Fynwy
Trydydd safle: disgybl o Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Caerdydd
Llongyfarchiadau mawr i'n henillwyr ac isod mae eu gwaith celf gwych.
Darganfyddwch fwy am y gystadleuaeth a'r gwobrau yma.

Taith Cymru Ifanc i Geneva
Yn gynnar ym mis Chwefror 2023, aeth 6 o'n gwirfoddolwyr o Gymru Ifanc ar daith i Geneva, i gwrdd â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ochr yn ochr â phobl ifanc o bob rhan o'r DU a Jersey, cawsant ddau gyfarfod gyda'r Pwyllgor, lle roeddent yn gallu mynegi eu barn ar gyflwr hawliau plant yng Nghymru ac roeddent yn gallu rhoi argymhellion ar gyfer yr hyn y credant y dylid ei wneud i Gwella pethau.
Darllenwch Adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yma.