Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Plant yng Nghymru eu hadroddiad ar ganfyddiadau’r Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol. Defnyddiwyd dyfyniadau o’r prif ganfyddiadau, a dadansoddiad pellach ohonynt, i lywio’r adroddiad hwn, sy’n canolbwyntio’n benodol ar ganfyddiadau cysylltiedig â thlodi a bwlio. Yn yr arolwg, bu plant a phobl ifanc yn rhannu eu barn, eu safbwyntiau a’u profiadau o fwlio cysylltiedig â thlodi, ac effaith bosibl hynny ar bob agwedd o’u bywydau.
Gall ymarferwyr, addysgwyr a llunwyr polisi glywed y lleisiau hyn a chymryd camau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag hyn, ac yn gallu gwireddu eu hawliau.
Poverty Related Bullying Report - 2022
Poverty Related Bullying Report Young Persons Version - 2022
Well-Being Commitments Of Welsh Local Authorities And Public Bodies To Support Report 2024