Mae Huw Perry yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac mae ganddo hefyd radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.
Wedi’i addysgu yn Ne Cymru, mae gan Huw brofiad ariannol lefel uwch helaeth o weithio mewn amrywiaeth o leoliadau masnachol ac ymarfer.
O 2008, bu Huw yn gweithio fel rheolwr cyllid rhanbarthol i’r elusen, Gweithredu dros Blant, hyd at ei ymddeoliad diweddar. Mae’n parhau i wasanaethu fel ymddiriedolwr pensiwn ar gyfer Gweithredu dros Blant.
Bu Huw yn gyfrifol am reolaeth ariannol leol a chynllunio strategol ac adrodd yn ystod y cyfnod hwn, gan weithio ledled Cymru a’r Cenhedloedd Celtaidd eraill. Adrodd i dimau arweinyddiaeth lleol a gweithredol yn ogystal ag i Ymddiriedolwyr.
Mwynhaodd Huw weithio'n agos gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol a helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae’n awyddus i ddefnyddio ei brofiad a’i sgiliau er mwyn parhau i wneud gwahaniaeth yn ei rôl fel Trysorydd Plant yng Nghymru.