Rôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am drefn lywodraethu gyffredinol a chyfeiriad strategol Plant yng Nghymru (CIW), gan ddatblygu nodau, amcanion a thargedau’r sefydliad yn unol â’r ddogfen lywodraethu a’r canllawiau cyfreithiol a rheoleiddio.
Rôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae rôl yr ymddiriedolwyr yn cynnwys:

Gan mai’r bwrdd sy’n gyfrifol am lywodraethu Plant yng Nghymru a’i weithrediad, mae’n atebol, i raddau gwahanol, i amryw o unigolion, gan gynnwys: defnyddwyr y gwasanaeth, yr aelodau, y cyllidwyr, y Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau. Rhaid rhoi sylw manwl i’r ddogfen lywodraethu er mwyn gweld y math o strwythur sefydliadol a’r amrediad o bartïon sydd â diddordeb.

Mae holl aelodau presennol Plant yng Nghymru yn gymwys i gael eu henwebu neu sefyll mewn etholiad ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac yn gallu bwrw pleidlais. Rhaid i Aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fod yn rhan o Aelodaeth Plant yng Nghymru ar hyd eu cyfnod ar y bwrdd. Ar ôl cael eu hethol, tair blynedd fydd y cyfnod o wasanaeth, gyda’r posibilrwydd o adnewyddu unwaith. Ar ôl dau dymor, rhaid sicrhau bwlch o ddwy flynedd o leiaf cyn y bydd aelod yn gymwys i sefyll eto mewn etholiad.