Ydych chi'n 11-25 oed ac am sicrhau bod pobl sy'n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar eich llais? Ydych chi eisiau lle i rannu eich barn ar faterion cymdeithasol rydych chi’n angerddol amdanyn nhw? Ydych chi eisiau gwneud ffrindiau newydd a gwneud gwahaniaeth i achos sy'n bwysig i chi ar yr un pryd? Gallwch wneud hyn i gyd a mwy pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda rhaglen Cymru Ifanc.

Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ledled y wlad, mae Cymru Ifanc yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
Drwy ein gwaith ymgynghori, ein grwpiau a’n byrddau, gallwch ddatblygu eich sgiliau a rhannu eich barn ar bynciau sy’n bwysig i chi. Does dim angen unrhyw brofiad arnoch chi, a does dim ffi i wirfoddoli. Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc brwdfrydig sydd eisiau cymryd rhan a defnyddio eu llais i wneud gwahaniaeth.
Cofrestrwch yma
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i waith Cymru Ifanc, ac rydyn ni am i bobl ifanc ddeall eu hawliau! Ein nod yn Cymru Ifanc yw adlewyrchu Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – Yr hawl i bobl ifanc gael barn, ac i’w barn gael ei chlywed a’i chymryd o ddifrif. Mae lleisiau pobl ifanc yn bwerus, ac mae Cymru Ifanc eisiau helpu i greu lle i’ch barn chi gael ei chlywed!
Mae Plant yng Nghymru yn sefydliad cynhwysol, ac felly rydyn ni’n croesawu plant a phobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd, diwylliannau a chymunedau i fod yn wirfoddolwyr ifanc. Bydd pawb yn cael eu trin yn deg drwy gydol eu profiad gyda ni, a bydd cefnogaeth yn cael ei darparu lle bynnag y bo modd i sicrhau bod pobl yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol ac yn weithredol.
Felly sut rydyn ni’n gwneud hyn?
Mae tîm Cymru Ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfleoedd gwych i bobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw, drwy gydol y flwyddyn. Dyma rai enghreifftiau o beth allech chi fod yn ei wneud fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc.
- Cymryd rhan yn ein Grwpiau a’n Byrddau sy’n trafod ystod eang o bynciau, o Newid Hinsawdd ac Iechyd Meddwl, i Ddiogelwch Ar-lein, Addysg a Hyfforddiant, a materion LHDTC+. Os oes achos rydych chi'n angerddol amdano, fwy na thebyg bod ganddon ni grŵp ar eich cyfer!
- Mynychu cwrs preswyl Cymru Ifanc, sy’n digwydd dair gwaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru – mae’r holl lety, trafnidiaeth a bwyd yn cael eu darparu am ddim.
- Dysgu mwy am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’n helpu ni i ledaenu’r gair am hawliau plant ledled Cymru.
- Cwrdd ag Aelodau’r Senedd a Swyddogion Llywodraeth Cymru a rhannu eich barn fel rhan o raglen Cymru Ifanc.
- Defnyddio eich llais drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a rhannu eich straeon a’ch barn am y gwaith rydyn ni’n ei wneud.
- Ymuno â ni mewn digwyddiadau fel Gŵyl Flynyddol Cymru Ifanc, Eisteddfod yr Urdd, a Pride Cymru.
Sut mae cofrestru?
Rydyn ni’n defnyddio Microsoft Forms i gofrestru ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, felly os ydych chi am gofrestru fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc mae’r ffurflen ar gael isod. Bydd yn cymryd tua 20 munud i’w llenwi. Wedyn, byddwn ni’n cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i sesiwn sefydlu gwirfoddolwyr newydd ar-lein, a chyfleoedd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
Cofrestrwch yma
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy, neu angen cymorth gyda'r ffurflen gofrestru, cysylltwch â ni drwy e-bostio ni yma.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @YoungWalesCIW