Ein Hyfforddwyr

Cwrdd â’n Hyfforddwyr Mewnol ac Cysylltiol

Tîm Hyfforddiant

Claire

Rheolwr Hyfforddiant

Claire

Mae Claire yn gyfrifol am reoli'r Tîm Hyfforddi sy'n cyflwyno cyrsiau rhyngweithiol ar ystod eang o bynciau a lefelau gan gynnwys diogelu, hawliau plant, plant sy'n derbyn gofal a datblygiad plant.

Sian

Swyddog Hyfforddi

Sian

Mae Siân yn darparu cyrsiau hyfforddi Plant yng Nghymru, wedi'u hysbysebu, eu comisiynu a'u contractio ar ystod o bynciau. Mae ganddi arbenigedd penodol mewn hyfforddiant ar ddiogelu, hawliau plant, gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi profi gwahanol fathau o gam-drin ac esgeulustod a chefnogi plant a phobl ifanc o grwpiau ymylol.

Natalie

Swyddog Hyfforddi

Natalie

Mae Natalie yn hwyluso nifer o gyrsiau hyfforddi Plant yng Nghymru, wedi’u hysbysebu, eu comisiynu a’u contractio ac mae ganddi brofiad ymarferydd o hyfforddiant ar ddiogelu a hawliau plant yn y sectorau statudol a gwirfoddol.

Mae Natalie wedi gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys addysg, elusennau, a gwasanaethau plant. Mae Natalie yn athrawes gymwysedig ac mae ganddi arbenigedd arbennig mewn hwyluso grŵp a gweithio gyda gwirfoddolwyr.

Kelly

Cydlynydd Hyfforddiant

Kelly

Kelly sy'n gyfrifol am gydlynu'r rhaglenni hyfforddi y mae Plant yng Nghymru yn eu cynnig.

Cymdeithion