Hyfforddiant ac adnoddau TSANA

TSANA.png

Mae TSANA (Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector) yn glymblaid o gyrff trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi a’u cynrychioli. Caiff y Gynghrair ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.  

Buon ni’n datblygu 2 gwrs, a grewyd gan Snap Cymru ar ran TSANA, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i helpu i hysbysu’r gweithlu ynghylch y System Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Cafodd y cyrsiau hyn eu cyflwyno ledled Cymru ym mis Mawrth 2023.  Fodd bynnag, gallwch barhau i gael gafael ar y wybodaeth drwy wylio neu lawrlwytho'r sleidiau o bob cwrs isod.

Trosolwg o'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'i gweithrediad

Delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY, neu’n eu cefnogi, gan gynnwys eu teuluoedd. Mae’n cynnwys y fframwaith a’r ddeddfwriaeth newydd, a sut mae hynny’n cael ei weithredu.

Trosolwg o'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'i gweithrediad - Sleidiau Hyfforddi

Cyfranogiad a Chynllunio Person-Ganolog ym myd Addysg

 Addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY, neu’n eu cefnogi. Mae’n cynnwys dealltwriaeth o’r dyletswyddau sydd gan gyrff cyfrifol o dan y Ddeddf ADY a phwysigrwydd a manteision dull cynllunio person-ganolog.

Cyfranogiad a Chynllunio Person-Ganolog ym myd Addysg - Sleidiau Hyfforddi

Efallai bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn cofrestru i dderbyn bwletin Llywodraeth Cymru ar bopeth sy’n ymwneud ag ADY, gan gynnwys diweddariadau, adnoddau, canllawiau a llawer mwy.

Welsh Government Logo.png