System Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ar 1 Medi 2021, cyflwynwyd y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd. Mae’r system newydd hon yn disodli’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) ac mae i gael ei gweithredu’n raddol dros gyfnod o 3 blynedd.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol i Gymru 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu nifer o ffeithlenni a gwybodaeth arall, gan gynnwys canllaw i rieni a chanllaw i ymarferwyr.  Mae gwybodaeth ychwanegol ac hyfforddiant ar-lein i ymarferwyr hefyd ar gael ar Hwb, platfform digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Mae aelodau o TSANA hefyd wedi darparu gwybodaeth ADY ar wefannau eu sefydliadau, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag anghenion dysgu penodol. Ewch i hafan TSANA i weld dolenni i wefannau ein haelodau.