Cyflwr Hawliau Plant

Mae 2020 yn nodi dechrau’r daith tuag at yr archwiliad nesaf o gynnydd y Llywodraeth o ran gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae Plant yng Nghymru, gyda’n partneriaid yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, wedi cychwyn ar brosiect, ac ariennir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ddarparu cyfres o weithgareddau i sefydliadau yng Nghymru i’w helpu i nodi’r materion allweddol sy’n ymwneud â hawliau plant â blaenoriaeth. Yn dilyn dau ddigwyddiad* a chasglu dros 70 darn o dystiolaeth, rydym bellach yn cwblhau adroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru, a gaiff ei ddatblygu a’i gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig cyn diwedd y flwyddyn i lywio adolygiad y DU yn 2021-22.

Gellir weld copi o’r sleidiau a gyflwynwyd yn y digwyddiad i lansio’r adroddiad, ar 10 Rhagfyr 2020, yma.

Digwyddiadau

Gwnaethom drefnu dau ddigwyddiad adeiladu gallu ac ymgynghori ar-leini ar 24 a 27 Awst 2020, a daeth nifer dda i’r ddau ohonynt a mwynhaodd y cynrychiolwyr. Isod mae rhywfaint o wybodaeth a rannwyd yn y digwyddiadau, ynghyd ag atebion i rai o’r cwestiynau a godwyd:

  • Adeiladu Capasiti (30 munud) – bydd cyfranogwyr yn dysgu mwy am broses adolygu’r CCUHP a ffyrdd o wneud mwy o ddefnydd ohonno yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Hefyd, cynyddu capasiti sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru i ymgysylltu â chyfraith hawliau dynol.

Siaradwr allweddol – Yr Athro Simon Hoffman, Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, Prifysgol Abertawe.

  • Grwpiau llai (30 munud) – bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u profiad, a helpu i nodi pa newidiadau sy’n angenrheidiol wrth ymgynghori â sefydliadau ar nifer o feysydd blaenoriaeth thematig i lywio ein hadroddiad ar Gyflwr Hawliau Plant yng Nghymru