Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i gefnogi ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd/rhianta o ansawdd gwell drwy:
- Ceisio dylanwadu ar bolisi sy'n ymwneud â rhianta a chymorth i deuluoedd Darparu gwybodaeth, cymorth ac adnoddau ar gyfer y rhianta a'r teulu
- Cefnogi gweithlu
- Darparu hyfforddiant i ystod o weithwyr proffesiynol
- Darparu cyfleoedd ar gyfer ymarfer a chyfnewid gwybodaeth
- Trefnu seminarau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sy'n rhannu ymchwil, polisi ac arfer da
Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2009 fel ymateb i geisiadau gan unigolion sy’n cyflawni rôl unigol fel cydlynydd rhianta â chyfrifoldeb strategol. Roedd yr unigolion hyn eisiau dod at ei gilydd i ddatblygu trwy ddarparu dysgu ar y cyd, adnoddau, cefnogaeth a gwybodaeth ar y cyd. Roedd yna awydd i gyfnewid a dysgu oddi wrth ein gilydd trwy ddull datrys problemau sy'n canolbwyntio ar atebion.