Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Sean O’Neill, Dirprwy Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi
sean.oneill@childreninwales.org.uk
Plant sydd â phrofiad o ofal yw plant sydd naill ai’n derbyn gofal gan y wladwriaeth o dan ddeddfwriaeth genedlaethol Cymru, neu blant a fu’n derbyn gofal gan y wladwriaeth yn y gorffennol. Mae cyfraith Cymru yn diffinio’r plant hyn fel Plant sy’n Derbyn Gofal neu Ymadawyr Gofal. Mae nifer y plant sy’n destun achosion gofal wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r mwyafrif yn derbyn gofal oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod. Yn gyffredinol, mae eu deilliannau addysg a iechyd yn is na’u cyfoedion, ac mae llawer ohonyn nhw’n teimlo’n ynysig ac yn parhau i fod yn agored i niwed yn ystod eu cyfnod mewn gofal. Er gwaetha’r gwelliannau i’r system ofal, mae llawer o blant yn mynd ymlaen i gael profiadau gwael ar ôl gadael gofal, gan gynnwys problemau sy’n ymwneud â thlodi, tai a chyflogaeth.
Mae’r prosiect Paratoi yn cyd-fynd â chynllun cyfredol Llywodraeth Cymru, ‘Pan fydda i’n Barod’.
Gweld gwybodaeth a chofrestru ar ein hyfforddiant sy’n ymwneud â Phlant â Phrofiad o Ofal.