Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwybodaeth arbenigol a chyngor arfer gorau i CBDC ar ein model cymru ifanc o ymgysylltu â phobl ifanc a dull gweithredu sy’n cael ei arwain gan hawliau wrth i CBDC gychwyn ar eu taith eu hunain o ymgysylltu â phobl ifanc drwy greu Cyngor Ieuenctid Cymru yn unol â’u blaenoriaethau strategol yn llinell gyda PAWB Hafan | PAWB Cymru.
Nod y prosiect fydd creu partneriaeth gadarnhaol rhwng CBDC ac Plant yng Nghymru lle bydd Plant yng Nghymru yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol wrth gymhwyso model ymgysylltu ieuenctid llwyddiannus Plant yng Nghymru, er mwyn galluogi cyngor ieuenctid CBDC a strwythurau pellach i fod yn gwbl gynhwysol ac yn cael eu cyflawni yn unol â ymagwedd hawliau cyfranogol.
Bydd y ffocws ar gynnwys pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru i leisio'u barn a rhoi'r cyfle iddynt gael eu huwchsgilio ac ennill achrediad a dysgu sy'n addas ar eu cyfer.
Mae CBDC yn gobeithio defnyddio’r dysgu a’r canllawiau hyn i alluogi’r cyngor ieuenctid i fod yn brofiad effeithiol a chadarnhaol i bobl ifanc lle gallant yn y dyfodol raeadru’r model hwn ar lefel ranbarthol a lleol mewn pêl-droed llawr gwlad.