Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Rhaglen Llysgenhadon

Fel rhan o werthusiad ar raddfa fawr o'r diwygiad ADY newydd, comisiynwyd Plant yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Y nod oedd datblygu a sefydlu grŵp Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ADY ledled Cymru gan sicrhau bod lleisiau ifanc yn ganolog i sut mae'r system ADY yn cael ei llunio a'i gwella.

Rydym wedi mabwysiadu dull creadigol, hylifol a chyfranogol o gasglu barn a phrofiadau plant a phobl ifanc. Mae eu hadborth wedi cael ei gasglu drwy sesiynau grŵp, grwpiau ffocws, a sgyrsiau un-i-un, gan gynnig dealltwriaeth ddofn o themâu allweddol.

Mae'r gwaith hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ystyried lleisiau plant a phobl ifanc yn ystyrlon wrth gynllunio a chyflawni polisïau a gwasanaethau. Mae hefyd yn cyfrannu at y gwerthusiad ehangach, parhaus o'r System ADY. 

Hyd yn hyn, rydym wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg, yn ogystal ag un ddarpariaeth dosbarth arbenigol ar gyfer disgyblion ag ADY. Ar draws pedwar lleoliad, rydym wedi cyflwyno 36 o sesiynau ac wedi ymgysylltu â 33 o ddisgyblion 6-16 oed, fel rhan o grŵp Cyfranogiad ADY Plant yng Nghymru.

Cyswllt: Claire Hathway, Swyddog Datblygu Anghenion Dysgu Ychwanegol

Y meysydd ffocws yw:

  • Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'r system ADY a'u hawliau
  • Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc mewn prosesau a gwneud penderfyniadau ADY
  • Dyheadau Plant a Phobl Ifanc ar gyfer dysgu a'u dyfodol​​


Fe Wnaethom ni Ofyn

Sut olwg sydd ar gefnogaeth dda?

“Mae’n well gen i ymyriadau mewn grwpiau bach oherwydd bod gen i fwy o amser i wneud y gwaith, ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus.”

“Athrawon caredig, doniol, y gallaf ymddiried ynddyn nhw – rhywun y gallwch fod yn agored gyda nhw ac sy'n gwneud i'r ysgol deimlo'n ddiogel.”

“Cefnogaeth dda yw gwybod eich bod chi o fy nghwmpas i. Os yw pobl yn fy nghyffwrdd, rwy'n teimlo'n glawstroffobig, ac wedyn dydw i ddim eisiau'r gefnogaeth honno. Dwi jyst eu hangen o’m cwmpas pan fydda i angen iddyn nhw fod.”
-

Pa bryd nad yw’n gweithio?

“Pan roedd gwersi’n teimlo’n llawn pwysau ac yn gyfyngedig, ac athrawon yn rhoi pwysau i gwblhau’r gwaith.”

“Pan fydd y gwaith naill ai’n rhy hawdd neu’n rhy anodd, yn rhy gymhleth neu jyst yn amhosibl.”

“Athrawon sy’n rhy llym, yn gweiddi ac nad ydyn nhw’n caniatáu digon o amser i gwblhau’r gwaith.”

“Mae gen i anabledd felly allwn i ddim cadw i fyny, ond roedd yr athro jyst yn meddwl fy mod i’n ddiog. Wnaethon nhw ddim addasu na newid y wers i mi, felly doeddwn i ddim eisiau cymryd rhan yn y pen draw.”

“Yn yr ysgol maen nhw'n dweud ysgrifennwch hyn i lawr hyd yn oed pan nad ydw i wir yn gwybod beth rydw i'n ysgrifennu amdano.”
-

Pryd ydych chi ar eich hapusaf yn yr ysgol?

“Rwy’n mwynhau troseddeg, mae gen i ddiddordeb yn y pwnc, mae’r athrawes yn cŵl, yn neis, yn garedig, mae hi’n fy neall i, y da, y drwg a’r hyll, mae hi’n ei deall hi, yn cymryd amser i siarad â fi.”

“Rwy’n hoff iawn o dechnoleg bwyd. Mae'r athrawes yn barchus ac yn caru ei swydd – mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n gyffrous am ei gwersi.”
-

Sut mae'r ysgol yn eich cefnogi i ddysgu a thyfu?

“Rwy'n defnyddio cyfrifiadur sy'n fy helpu i gynhyrchu geiriau a syniadau.”

“Mae fy athro mathemateg yn rhoi canmoliaeth i mi ac yn sylwi arna i. Mae e eisiau i'r ysgol fod yn lle diogel.”

'Yn fy hen ddosbarth roedd gormod o ddisgyblion. Roedd angen amser tawel arnaf i'.
-

Cael dweud eich dweud wrth i benderfyniadau gael eu gwneud?

“Pan fydd athrawon yn cymryd amser i ddarllen yr hyn rwy’n ei ysgrifennu, mae’n helpu’n arw."

“Mae cyfarfodydd gyda staff yn rhoi cyfle i mi gynnig fy marn a theimlo fy mod i’n rhan o’r broses."

“Rwy’n cael dweud beth rwy’n ei hoffi yn yr ysgol, beth rwyf ei eisiau, beth sydd ei angen arnaf ac rwy’n cael archwilio posibiliadau.”

“Dydy cyfarfodydd ddim yn ddefnyddiol, maen nhw’n sbardun – does dim newid yn dod ohonyn nhw, maen nhw’n gwneud eich bywyd yn ddiflas.”

“Maen nhw'n gwrando pan fydda i'n siarad am newid unrhyw beth ac os oes angen mwy o help arna i. Y llynedd doeddwn i ddim eisiau gofyn am help, roeddwn i eisiau bod yn annibynnol. Ond mae sgwrsio mwy gyda ffrindiau ac athrawon wedi gwneud i mi fod eisiau gofyn am help yn fwy eleni.”
-

Adroddiadau ac Adnoddau

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Rhaglen Llysgenhadon

Anghenion Dysgu Ychwanegol - Adroddiad diwedd blwyddyn 2024-2025