Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dylid cyflwyno pob ymateb i’r ymgynghoriad hwn erbyn 11 Medi 2023. https://www.llyw.cymru/strategaeth-tlodi-plant-ddrafft-cymru-2023
Mae’r strategaeth ddrafft hon wedi’i llunio ar y cyd â theuluoedd sydd â phrofiad byw o dlodi a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi. Llywodraeth y DU sydd â’r prif ysgogiadau ar gyfer trechu tlodi fel budd-daliadau lles a llawer o bwerau cyllidol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn benderfynol o wneud y defnydd mwyaf posibl o’r pwerau sydd ar gael iddynt a gweithredu datrysiadau Gwnaed yng Nghymru, gan weithio gyda’n partneriaid tuag at Gymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.