Mae Cyngor Trawma y Deyrnas Unedig wedi datblygu naw egwyddor a lywiwyd gan ddealltwriaeth o drawma cymhleth, ei effaith ar ddatblygiad plant, ac ymatebion seiliedig ar dystiolaeth y gall rhoddwyr gofal, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ymwneud â nhw er mwyn rhoi sylw i effeithiau trawma cymhleth.

Egwyddorion:

  1. Sefydlu diffiniad cyffredin o drawma cymhleth
  2. Hyrwyddo a sefydlogi cydberthynas o ymddiriedaeth
  3. Meithrin rhyngweithio cefnogol
  4. Mynd ati i alluogi pobl ifanc
  5. Adnabod addasiadau ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol
  6. Ymateb yn gyfannol i anghenion lluosog
  7. Darparu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth
  8. Taclo’r cyd-destun a ffactorau systemig
  9. Cefnogi’r gweithlu

I gael rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion hyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, darllenwch Trawma cymhleth: egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol i blant.