Mae ein Haddewid yn nodi'r camau y mae ein sefydliad yn eu cymryd i gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi plant sydd wedi profi gofal trwy ein gweithgareddau. Mae hyn yn dilyn ein hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru wrth gynghori ar gynnwys eu Siarter Rhianta Corfforaethol yr oeddem yn falch iawn o'i lofnodi ar ôl ei ryddhau y llynedd. Rydym yn annog ein holl aelodau a phartneriaid i ystyried gwneud addewid tebyg i blant sydd wedi profi gofal, gan nodi'r camau y byddwch yn eu cymryd trwy eich gwasanaethau i helpu i sicrhau bod eu hawliau a'u hanghenion yn cael eu cyflawni.

Darllen ein haddewid yma