Gweithiwr Ymgysylltu – Cymru Ifanc (Cymraeg yn hanfodol)
Rydyn ni’n recriwtio (Cyfrwng Cymraeg) i gefnogi cyflwyno gwaith hawliau plant a chyfranogiad Plant yng Nghymru, yn bennaf trwy greu cysylltiad â phlant a phobl ifanc, a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y gwaith yn galw am deithio ledled Cymru, a bydd swyddfa yng Nghaerdydd. I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rheolwr Cymru Ifanc, Natalie Lewis, ar 07494 208591 neu e-bost.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 2/7/25 ac mae disgwyl i’r cyfweliadau gael eu cynnal ar 7/7/25