Allwch chi feithrin cydberthnasau gwaith cryf gyda phlant a phobl ifanc?
Ydych chi'n angerddol dros gefnogi plant a phobl ifanc i gael llais a chymryd rhan?
Mae Plant yng Nghymru yn chwilio am weithwyr sesiynol i gefnogi tîm Cymru Ifanc yn ystod gweithgareddau ymgysylltu fel cyfarfodydd preswyl, gwyliau a digwyddiadau ymgynghori. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddinasyddiaeth weithgar a chlywed lleisiau plant a phobl ifanc 11-25 oed. Penodi
Apwyntiad
Rydym yn chwilio am rai sydd â gwybodaeth dda am Ddiogelu, Hawliau Plant a dulliau hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc. Os ydych chi'n gallu dangos sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a threfnu cryf, ynghyd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfranogiad, yna hoffem glywed gennych chi.
Bydd ceisiadau yn aros ar agor yn ystod 2026