Gweithwyr Ymgysylltu Sesiynol Cyfranogiad

Teitl Swydd:                   

Swyddog Datblygu Sesiynol Cyfranogiad

Lleoliad:                   

Caerdydd gyda rhywfaint o deithio ledled Cymru gan gynnwys aros dros nos.  Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu.

Oriau:         

Dim oriau wedi’u gwarantu

Cyfradd tâl:

Cyfradd tâl: £260 y dydd / £37 awr

Ydych chi wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc?

Ydych chi'n angerddol dros gefnogi plant a phobl ifanc i gael llais a chymryd rhan?

Mae Plant yng Nghymru yn chwilio am weithwyr proffesiynol profiadol i gefnogi darpariaeth gwaith cyfranogiad a hawliau plant, yn bennaf trwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'r sefydliadau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi. 

Penodi

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol i gefnogi gwaith Cymru Ifanc.  Os ydych chi'n gallu dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfranogiad; os oes gennych chi brofiad priodol o weithio gyda phlant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ac ymgysylltu â nhw, yna hoffem glywed gennych chi.

Bydd ceisiadau yn aros ar agor yn ystod 2026