Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Teitl Swydd:                   

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Lleoliad:                   

Hybrid o gartref neu Swyddfa Caerdydd, a phresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol o leiaf bob pythefnos.

Oriau:         

35 awr yr wythnos

Contract:         

Parhaol

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol o'r sector cyhoeddus neu'r trydydd sector i ymgymryd â'r rôl bwysig hon ac ymuno â'n Huwch Dîm Arwain.  Yn swydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau byddwch yn dod ag arbenigedd o ran arwain timau llwyddiannus a'u galluogi i ddangos eu heffaith. Wedi’ch sbarduno gan werthoedd, yn llawn egni ac yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau gorau i blant, byddwch yn deall pwysigrwydd hanfodol diogelu ac, yn ddelfrydol, yn deall cyd-destun gweithredu Plant yng Nghymru. Gyda llygad am gyfleoedd entrepreneuraidd a'r sgiliau i ddatblygu a chynnal perthynas â chyllidwyr a chydweithwyr, byddwch yn allweddol i alluogi Plant yng Nghymru i gyflawni ei uchelgeisiau strategol.

Bydd y broses ymgeisio yn cau am hanner dydd, dydd Llun 14 Rhagfyr 2026.


Pecyn Gwybodaeth am y Swydd
Gwnewch gais yma