A ydych chi'n frwd dros gefnogi pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnyn nhw? Os felly, yna gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi! Mae gennym gyfle i ymuno â’n tîm yn y rôl rhan amser hon i gyflawni nifer o weithgareddau gan gynnwys ymgynghoriadau cyfranogol, hwyluso byrddau cynghori ac ymgysylltu â phobl ifanc mewn amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau gan ddefnyddio dull cyfranogol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Tegan Waites, Rheolwr Cymru Ifanc ar tegan.waites@childreninwales.org.uk
Bydd y Swyddog Datblygu, ynghyd â chydweithwyr yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu rhaglen gyfranogiad Plant yng Nghymru, trwy waith uniongyrchol gydag ystod amrywiol o blant a phobl ifanc a’r ymarferwyr a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, sef:
- Hysbysu a galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi’n effeithiol a sicrhau bod Gweinidogion a llunwyr polisi’n clywed eu barn drwy Cymru Ifanc a gweithgareddau cyfranogiad eraill, er mwyn llywio datblygiad polisi ac ymarfer tra’n grymuso plant a phobl ifanc.
- Cefnogi gweithrediad Erthygl 12 CCUHP drwy gasglu llais y plentyn i lywio datblygiad polisi.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am 6 Awst 2024
Cynhelir cyfweliadau ar 12 neu 13 Awst 2024