Swyddog Hyfforddi
Rydym yn recriwtio hyfforddwr profiadol a bydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant effeithiol o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant Diogelu i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru, a chynnwys arall sy'n gysylltiedig â'r sector plant. Bydd hyfforddiant yn digwydd yn rhithwir ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru.
Bydd y Swyddog Hyfforddi, gan weithio o fewn tîm, yn chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd newydd i ddatblygu’r rhaglen hyfforddi ymhellach a sicrhau bod ei chynnwys yn adlewyrchu amcanion strategol Plant yng Nghymru mewn perthynas â’r CCUHP, a deddfwriaeth berthnasol.
Dyddiad cau:
Bydd y broses ymgeisio yn cau am 9am 13 Ebrill 2026.
Os byddwch yn llwyddo i gael cyfweliad, cewch wybod drwy'r cyfeiriad e-bost a roddwyd i ni. Bwriedir cynnal cyfweliadau ar 29 Ebrill 2026.