Swyddog Datblygu Sesiynol – Cyfranogiad (Cyfrwng Cymraeg)
Rydyn ni’n recriwtio Swyddog Datblygu Sesiynol – Cyfranogiad (Cyfrwng Cymraeg) i gefnogi cyflwyno gwaith hawliau plant a chyfranogiad Plant yng Nghymru, yn bennaf trwy greu cysylltiad â phlant a phobl ifanc, a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y gwaith sesiynol yn galw am deithio ledled Cymru, a bydd swyddfa ar gael yn Spark yng Nghaerdydd. I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rheolwr Cymru Ifanc, Natalie Lewis, ar natalie.lewis@childreninwales.org.uk