Swyddog Prosiect Rhiant-wirfoddolwyr

Lleoliad: 

Gweithio Ystwyth – Bydd gofyn i chi weithio yn ardal awdurdodau lleol Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, yn ogystal â gweithio gartref neu yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd mynediad i drafnidiaeth yn hanfodol bwysig ac ad-delir costau teithio.

Cyflog:

£35,893.80 pro rata

Oriau Gwaith:

17.5 awr yr wythnos

Contract:

Bydd y prosiect ar waith rhwng 1 Medi 2025 a 31 Mawrth 2026

7 Awst 2025

Ein bwriad yw penodi gweithiwr proffesiynol sydd â chymwysterau a phrofiad addas i arwain y prosiect hwn â chymorth a goruchwyliaeth gan Plant yng Nghymru a Cyswllt Rhieni Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnwys rhieni; bydd ganddynt brofiad o weithio gyda rhieni o wahanol gefndiroedd ac ymgysylltu â nhw, a’r gallu i arwain a chwblhau’r prosiect hwn o fewn y terfynau amser a bennwyd

Sefydlwyd cynllun gwaith eglur i lywio’r prosiect a bydd cyfarfodydd rheolaidd yn caniatáu cydweithio a datblygu.

Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys

  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno rhaglen hyfforddi addas i riant-wirfoddolwyr
  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno digwyddiadau rhanbarthol a chymunedol gyda rhiant-wirfoddolwyr a rhanddeiliaid lleol i hyrwyddo’r gwaith a gyflawnir
  • Cwblhau adroddiad gwerthuso, gan ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid er mwyn llywio’r broses
  • Cyfrannu at gyfarfodydd rheolaidd gyda swyddogion arweiniol yr awdurdodau lleol

Pwy allai fod â diddordeb:

Gallai’r swydd hon fod o ddiddordeb i’r canlynol: pobl sy’n gweithio mewn timau cymorth i deuluoedd a magu plant mewn Awdurdod Lleol, Ymchwilwyr a gweithwyr Trydydd Sector, ynghyd â gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o waith cyfranogol gyda rhieni

Croesewir ceisiadau ar gyfer y rôl hon ar sail secondiad. Os ydych chi’n ymgeisydd sy’n gweithio i sefydliad arall, gofalwch fod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle gyda’ch cyflogwr cyfredol cyn i chi gyflwyno cais.

I gael trafodaeth anffurfiol cyn ystyried gwneud cais, cysylltwch ag Anna Westall – Uwch-swyddog Polisi anna.westall@childreninwales.org.uk

Pecyn Gwybodaeth Swydd      Ymgeisiwch Nawr