Swyddog Polisi: Tlodi Plant a Phlant sy'n Agored i Niwed

Lleoliad

Hybrid – gweithio ystwyth o gartref ac yn y swyddfa yng Nghaerdydd

 

Oriau Gwaith

28 awr yr wythnos

 

Cyflog

£35,893.80 y flwyddyn (pro rata) Gwirioneddol £28,715.04

 

Dyddiad cau

13 Ebrill 2026, 12:00yp

Swyddog Polisi: Tlodi Plant a Phlant sy'n Agored i Niwed

Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd, cymhelliant ac egni, ac sy’n gallu dangos angerdd am waith polisi, ac ymrwymiad cadarn i hyrwyddo hawliau plant a gallu babanod, plant a phobl ifanc fel rhan o’ch gwaith.

Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ein hymgyrch i ddileu tlodi plant yng Nghymru, a’n hymrwymiad i rymuso a chefnogi plant agored i niwed i wireddu eu holl hawliau.